ANTURIAETHAU (A BRWYDRAU)
Y BOI MADFALL

Theatr Iolo 

Medi 2021

Cyfarwyddwyd gan Ffion Wyn Bowen

 

Mae Tobi yn un ar ddeg oed ac yn bwriadu bod y Steven Spielberg nesaf. Yn ei ystafell wely, ac yn ddwfn yn ei ddychymyg, mae’n cynllunio ei ‘superhero blockbuster’ nesaf trwy’r amser. Mae hefyd yn byw gydag ecsema, ond nid yw’n mynd i adael i hynny ei rwystro rhag gwneud ei ffilm, na difetha cyfeillgarwch ei gyd-ddisgybl newydd, Greta.

 

Perfformiad unigol yw hwn sy'n addas ar gyfer plant 11-12 oed.

 

Mae'n gofyn inni ystyried efallai na fydd yr hyn a allai fod yn normal i rai pobl yn normal i eraill.

 

Weithiau, mae dysgu sut i fod yn gyffyrddus yng nhroen eich hyn yn siwrne llawn anturiaethau sy’n fwy na’r ffrwydrau.

madfall.jpg